Blegywryd


Y grŵp mwyaf yw Blegywryd, yn cynnwys pymtheg o lawysgrifau, I, J, L, M, N, O, P, Q, R, S, T, Tim, Tr, Bost, ac Ep. Daw’r testunau Blegywryd o dde Cymru, ac mae nifer o’r llawysgrifau diweddarach yn dangos gwaith golygu, ac yn aml maent yn cynnwys deunydd ychwanegol ar ffurf ‘cynffon’ a atodir i’r prif destun Blegywryd. Maent yn eithaf agos o ran trefn a chynnwys, ond mae’r dull yn ymrannu yn ddau grŵp wedyn. Y Dimetian code gynt, enwir y dull ar ôl Blegywryd Athro, a enwir yn rhaglithiau’r llawysgrifau Cyfnerth a Blegywryd, fel yr ysgolhaig a ddewiswyd i lunio’r cyfreithiau.

Gw. hefyd y rhestr testunau.
(c)Sara Elin Roberts

(c)Sara Elin Roberts



Emanuel, H. D., ‘Blegywryd and the Welsh Laws’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 20 (1962-4), 256-260.

Emanuel, H. D., ‘Llyfr Blegywryd a Llawysgrif Rawlinson 821’, Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 19 (1960-62), 23-28.

*Emanuel, H. D., ‘The Book of Blegywryd and MS. Rawlinson 821’, yn Celtic Law Papers (Brussels, 1973), 161-170.


      




Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration