Dulliau

(c)Sara Elin Roberts

(c)Sara Elin Roberts


Rhennir y llawysgrifau cyfraith yn grwpiau, neu ddulliau, bob grŵp yn dangos tebygrwydd o ran math a threfn. Yn Ancient Laws and Institutes of Wales enwodd Aneurin Owen bob dull yn ôl cysylltiad ag ardal: galwyd y grŵpiau Cymraeg yn Venedotian (Gwynedd), Dimetian (Dyfed) a Gwentian (Gwent). Nid oedd hyn yn hollol gywir, ac erbyn hyn enwir y dulliau ar ôl pobl a enwir yn rhaglith bob grŵp: Iorwerth, ar ôl Iorwerth ap Madog, y Venedotian code gynt; Cyfnerth, y Gwentian code, ar ôl Cyfnerth ap Morgeneu; a Blegywryd, y Dimetian code gynt, wedi ei enwi ar ôl Blegywryd Athro. Mae’r llawysgrifau Lladin hefyd yn ffurfio dull llac.

      




Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration