Llyfr Prawf

Testunau o'r Llyfr Prawf

Rhennir y llawysgrifau Iorwerth yn dri, sef cyfraith y llys, cyfraith y wlad, a’r llyfr prawf ynaid. Yn rhagymadrodd y llyfr prawf dywedir bod y llyfr prawf yn cynnwys y prif destunau y byddai angen i ddyn eu gwybod i fod yn ynad, a’r rhai hynny yw tair colofn cyfraith, gwerth gwyllt a dof, a’r pethau cysylltiedig. Yn ogystal â’r adrannau hynny, ceir atodiad i’r llyfr prawf sydd yn cynnwys adrannau ar gyfar, (sef cyd-aredig), llwgr ŷd, ac adrannau byrion ar destunau cysylltiedig.
(c)Llyfrgell Genedlaethol Cymru

(c)Llyfrgell Genedlaethol Cymru



      




Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration