Dafydd Jenkins (1911-2012), ysgolor cyfraith Hywel (inter plurima)



Ysgrifenna Dr Paul Russell:
Bu farw’r Athro Dafydd Jenkins, hanesydd cyfraith a blaenor cyfraith Hywel, yn oriau mân y bore ddydd Sul 6 Mai yn 101 mlwydd oed. Wedi ei eni ar 1 Mawrth 1911, bu’n fyw yn ddigon hir i gael o leiaf pedair gyrfa. Cafodd ei eni yn Llundain i rieni o Geredigion, mynychodd Goleg Sidney Sussex, Caergrawnt lle y darllenodd y Gwyddorau Naturiol wedi ei ddilyn gan y Gyfraith, a cafodd ei alw i’r Bar ym 1934. Yna bu’n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ac ym 1938 yr oedd yn ysgrifennydd yr ymgyrch i gael cydnabyddiaeth i’r Gymraeg yn y Llys. Yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel, prynodd fferm yn Nhrawsnant yng Ngheredigion a ffermio yno yn y pedwardegau a’r pumdegau, fferm yr oedd yn dal i fod yn berchen arni pan y bu farw. Yr oedd yn ddylanwadol mewn cylchoedd amaethyddol Cymreig ac yr oedd ganddo ran yn sefydlu cynlluniau cydweithredu amaethyddol yng Nghymru. Yn y pedwardegau a’r pumdegau bu’n cynnal dosbarthiadau nos ar bynciau amaethyddol ar gyfer Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac o 1965 bu’n darlithio yn yr Adran Gyfraith yn Aberystwyth, yn y pen draw yn ddeiliad cadair mewn Hanes Cyfraith a Chyfraith Hywel, (1975-1978), hyd ei ymddeoliad.

Cliciwch am ddelwedd fwy

Gwnaeth ei waith ar gyfraith Cymru yn yr oesoedd canol yn y blynyddoedd diwethaf hyn, ac mae’n anhygoel i feddwl pan y dois i i’w adnabod yn y cyd-destun hwnnw yr oedd eisoes wedi ymddeol ac yn ei saithdegau cynnar. Cyhoeddodd yn helaeth trwy gydol ei fywyd wedi dysgu’r grefft o argraffu tra’n cyd-olygu Heddiw gydag Aneirin Talfan Davies tra’r oedd yn dal i fod yn Llundain, ac fe gadwodd hyd y diwedd synnwyr dda am osodiad y ddalen a theipograffeg. Un o’i weithiau cynnar mwyaf enwog oedd Tân yn Llŷn (Aberystwyth, 1937), cofnod fforensig o achos D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis am losgi’r ysgol fomio ym 1937. Roedd ei gyhoeddiadau eraill yn cynnwys y teithlyfrau, Ar Wib yn Nenmarc (Aberystwyth, 1951) ac Ar Wib yn Sweden (Aberystwyth, 1959), Y nofel: datblygiad y nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen (Caerdydd, 1948), Law for Co-operatives (Rhydychen, 1958) a golygiad o waith Gwilym Hiraethog ar Helyntion Bywyd Hen Deiliwr (Aberystwyth, 1940). Dim ond yn y saithdegau y dechreuodd y ffrwd o gyhoeddiadau ar gyfraith Cymru’r oesoedd canol ond aethant ymlaen hyd 2010; maent yn cynnwys Cyfraith Hywel (Llandysul, 1970), Celtic Law Papers (Brwsel, 1973), The Law of Hywel Dda: law texts from Medieval Wales (Llandysul, 1986), a’r golygiadau Llyfr Colan (Cardiff, 1963) a Damweiniau Colan (Aberystwyth, 1973), a Conspectus of the Manuscripts of the Cyfnerth Redaction (Cambridge, 2010). Yn ogystal cyfrannodd nifer o ysgrifau i gyfrolau eraill, gan gynnwys The Welsh King and his Court (Caerdydd, 2000), a Tair Colofn Cyfraith: The Three Columns of Law in Medieval Wales (Bangor, 2007). Mae pob ysgolhaig yn dod â holl brofiad eu bywydau i’w gwaith, ond roedd profiadau bywyd Dafydd mor gyfoethog, mor amrywiol a mor berthnasol neu eu bod yn serennu trwy popeth yr ysgrifennodd. Nodwedd ei waith oedd dealltwriaeth fanwl a chlos o’r gyfraith, gan fynegiant gwych yn y Gymraeg, ac yn arbennig gan ddealltwriaeth ddofn o gyfraith y tir yn ddeillio o’i flynyddoedd yn ei ffermio. Ym 1986, pan oedd yn 75, cafodd ei anrhydeddu gyda Festschrift, Lawyers and Laymen (Caerdydd, 1986), a phrin iawn y byddai pawb wedi credu y byddai ganddo gymaint o flynyddoedd cynhyrchiol o’i flaen. Gweithiais i gydag ef fel golygydd ar rai o’r cyfrolau hyn ac hyd yn oed yn 99 ni fyddai’n gadael i chi ddianc rhag unrhyw beth; yn un taer am derminoleg cyfreithiol penodol, byddai bob tudalen brawf yn dod yn ôl gyda nodiadau mewn pensel mewn llaw fechan italig a oedd, po’r lleiaf ydoedd, yn hollol ddealladwy ac yn glir ddiarben yn ei fwriad.
Un o’i lwyddiannau mwyaf oedd sefydlu Seminar Cyfraith Hywel sydd yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i drafod materion ar gyfraith Cymru a thros y blynyddoedd sydd wedi bod yn ffynhonnell hynod ffrwythlon o gyfrolau o erthyglau a thestunau golygedig ar wahanol agweddau o Gyfraith Hywel, megis cyfraith y gwragedd, mechnïaeth, cyfraith y llys, Tair Colofn Cyfraith (ar alanas, tân a lladrad), ac mae un arall ar y gweill ar Gyfraith Gwyllt a Dof. Yr oedd yn dal i fynychu y cyfarfodydd tan yn ddiweddar, ac ar 6 Mawrth 2011 cynaliasom gyfarfod arbennig i ddathlu ei 100fed pen-blwydd ar y Dydd Gŵyl Ddewi blaenorol. Ni lwyddodd i fynychu cyfarfodydd diwethaf y seminar, ac fe oedd, ac fe fydd, bwlch siâp Dafydd yn y llinell flaen.
Cafodd ei gladdu nesaf at ei wraig yng Nghapel Penrhiw, Joppa, y drws nesaf i’w fferm yn y Trawsnant.


SEMINAR CYFRAITH HYWEL

I ANRHYDEDDU DAFYDD JENKINS
Teisen Penblwydd Dafydd Jenkins (c)Bryn Jones

Teisen Penblwydd Dafydd Jenkins (c)Bryn Jones




5 Mawrth 2011

Llyfrgell Genedlaethol Cymru


10.30 Coffi ym Mwyty Pen Dinas

11.00 Ystafell Addysg


Siaradwyr:

Cadair: yr Athro Thomas Charles-Edwards

Dafydd Walters - Cydweithrediad, hen a chyfoes / Co-operation, ancient & modern

Sara Elin Roberts - Pontefract Castle and Welsh law

Christine James - Dafydd (Llwyd) : Dosbarthwr

Huw Pryce - J. E. Lloyd and the Welsh laws


Saib o bum munud

Cadair: Prof Robin Chapman Stacey

Noel Cox - The contribution of Dafydd Jenkins to the study of Welsh Legal History at Aberystwyth

Thomas Charles-Edwards - Llyfr Colan and Llyfr Iorwerth

Paul Russell - Iorwerth ap Madog, Llyfr Iorwerth, and Latin C

Morfydd E. Owen - Oh K

1.00 Cinio bwffe ym mwyty Pen Dinas


Yr ydym yn hynod ddiolchgar i’r Llyfrgell Genedlaethol am ganiatáu i ni gynnal y cyfarfod yn y Llyfrgell.





Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration