Newyddion
Ehangu'r wefan (07-03-2014)
Ychwanegu at yr adran Cyhoeddiadau a ThestunauYn ddiweddar, mae rhai newidiadau wedi bod yn digwydd ar y wefan hon.
Ychwanegwyd y ddolen 'Cyhoeddiadau a Thestunau' ddiwedd 2013, a'r bwriad yw rhoi testunau golygedig o lawysgrifau cyfraith ar y wefan hon.
Mae llawer o waith yn cael ei wneud ar y llawysgrifau cyfraith, a'r gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi yn y gyfres Testunau Ac Astudiaethau yng Nghyfraith Hywel, ond y bwriad ar y wefan yw cynnig pdf o'r golygiadau, fydd yn destunau chwiliadwy.
Mae golygiad Paul Russell o Lladin C wedi ei gynnig yma, a golygiad Sara Elin Roberts o lawysgrif Z; mae'r gweithiau hyn eisoes wedi eu cyhoeddi fel monograffau.
Yma hefyd ceir copi o olygiad Christine James o S, gwaith a fydd yn cael ei gyhoeddi fel monograff yn y dyfodol agos.