Newyddion

Llawysgrif Boston Arlein (12-08-2013)

Mae llawysgrif Boston, a brynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol y llynedd, bellach ar gael ar y wefan.
Roedd mis Mehefin 2012 yn amser cyffrous iawn i Gyfraith Hywel, gan i un o'r llawysgrifau canoloesol ddod ar y farchnad, i'w gwerthu gan Sothebys.
Llawysgrif a oedd wedi bod mewn llyfrgell ym Moston, yn yr Unol Daleithiau, ers peth amser oedd y llawysgrif hon, ac o'r herwydd gelwir y llawysgrif yn Llawysgrif Boston, neu Bost.
Llwyddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i brynu'r llawysgrif, ac yn dilyn blwyddyn o waith cadwraeth, mae'r llawysgrif bellach wedi ei digido ac i'w gweld ar wefan y Llyfrgell. Newyddion gwych!

http://www.llgc.org.uk/index.php?id=6177&L=1


mwy

mwy o NEWYDDION







Dylunio a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration