Rwyf yn hanesydd cyfraith ac yn awdurdod ar gyfraith Cymru'r Oesoedd Canol. Mae fy ymchwil yn cymryd agwedd rhyngddisgyblaethol at hanes Cymru'r oesoedd canol, gan ddefnyddio'r llawysgrifau niferus sy'n goroesi mewn Cymraeg a Lladin, i ddangos bywyd a chymdeithas yng Nghymru a'r Mers yn yr oesoedd canol diweddar. Gan gynnwys hanes cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol a deallusol, mae fy archwiliad o'r testunau cyfraith nid yn unig yn taflu goleuni ar weithgareddau'r gwŷr deallusol blaenaf (cyfreithwyr, clerigwyr, beirdd ayb), a'u gwaith yn y diwylliant llenyddol Cymreig blaengar, ond mae hefyd yn ystyried diddordebau a meddylfryd pobl gyffredin Cymru'r oesoedd canol.
Mae Cyfraith Hywel yn ffynhonnell hynod gyfoethog i ddod i ddeall cymdeithas Gymreig y cyfnod a'i pherthynas â'r byd y tu hwnt yn yr oesoedd canol ac felly mae gweithio ar y pwnc wedi fy arwain at sawl maes ymchwil, gwaith dysgu a chyhoeddiadau cyffrous, o hawliau merched yng Nghymru'r oesoedd canol at yr ymrafael gwleidyddol yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn cwestiynau o ryw, rheolaeth, grym a hunaniaeth yng Nghymru a'r Mers wedi'r goncwest, yn ogystal ag yn y diwylliant llawysgrifol a oedd y tu ôl i'r tŵf hynod mewn llawysgrifau cyfreithiol Cymreig rhwng y drydedd ganrif a'r ddeg a'r bymthegfed ganrif. Rwyf hefyd yn awdurdod ar farddoniaeth Gymraeg ganoloesol, yn arbennig gwaith Dafydd ap Gwilym, fel aelod o'r tîm prosiect ar gyfer y golygiad newydd yn www.dafyddapgwilym.net, ac fel golygydd yr ymryson.
Rwyf yn cymryd rhan yng ngwaith sawl cymdeithas academaidd, ac yn traddodi darlithoedd yn rheolaidd ar wahanol agweddau o Gymru'r oesoedd canol.