'Ancient Laws and Institutes of Wales' gan Aneurin Owen oedd y golygiad modern llawn cyntaf o Gyfraith Hywel, gan ystyried yr holl lawysgrifau oedd ar gael i Aneurin Owen. Mae'r golygiadau yn ddefnyddiol hyd heddiw, a pharheir i ddefnyddio'r llythrennau a bennodd i'r llawysgrifau, gydag ychwanegiadau gan i rai llawysgrifau ddod i'r fei wedi amser Aneurin Owen.
Yn ei Gyfrol I, cyflwynodd y tri Dull a enwodd ar ôl ardaloedd o Gymru. Erbyn hyn mae'r rhain wedi eu hail-enwi, ond ei Ddulliau yw: Venedotian Code o Wynedd (a elwir Iorwerth bellach); y Dimetian Code o Ddyfed (Blegywryd yn awr); a'r Gwentian Code o Gwent (Cyfnerth).
Yr 'Anomalous Laws' oedd cynnwys Cyfrol II, wedi eu trefnu yn Llyfrau, a'u rhifo IV-XIV; roedd Llyfr XIII yn seiliedig ar ffugiad gan Iolo Morganwg. Dilynwyd y rhain gan dri thestun Lladin, Leges Howeli Boni, a adwaenir bellach fel Lladin A, B ac C.
The notes are commonly referred to by a small numeral: thus, (1); and in special cases by a small Italic letter: thus, (a).
Explanatory foot-notes are distinguished by a Roman letter: thus, (a).
There is also used another mark, called a tick: thus, (`). In the body of the text this mark shows the end of the passage, for which a various reading is to be found; and in the notes a corresponding tick has been placed immediately after the numeral or Italic letter.
In cases where two or more Manuscripts vary as to the length of the passage about which they differ, the point in the text at which each terminates is marked by one or more ticks, according to the number of conflicting Manuscripts: thus, (`) (``) (```) (````) and so on.
Y dull safonol yw cyfeirio at adrannau yn hytrach na rhifau tudalennau yn y llyfr print, oherwydd bod dwy fersiwn o AL.
Ar gyfer Cyfrol I, cyfeirir at u Dull yn gyntaf gyda’r byrfoddau VC = Venedotian Code, DC = Dimetian Code, and GC = Gwentian Code.
Ar gyfer Cyfrol II cyfeirir at rif y Llyfr mewn priflythrennau rhufeinig.
Cyfeirir at rif y bennod mewn llythrennau bychain rhufeinig.
Cyfeirir at rif y frawddeg mewn rhifolion arabeg.
Felly, er enghraifft, VC II.ii.4, neu XI.ii.7.
Disodlwyd y testunau Lladin yn AL gan The Latin Texts of the Welsh Laws, felly ni ddylir eu defnyddio. Fodd bynnag, yn y prosiect hwn, ceir cyfeiriadau gyda’r gronfa ar gyfer y llawysgrifau perthnasol, er mwyn bod yn gyflawn, ac yn y dull canlynol:
Leges Wallicae = LW, Llyfr, pennod, brawddeg. [Lladin A] LW I.ii.3
Leges Howeli Boni = LHB, Llyfr, pennod, brawddeg. [Lladin B] LHB I.ii.3
Leges Howeli Boni = LHB, pennod, brawddeg. [Lladin C] LHB i.2. Pan ddaw rhifo’r testun i ben, cyfeirir at y dudalen a’r llinell yn yr argraffiad Quarto.
Ceir y tudalennau cyfatebol yn yr argraffiad Folio yn P. Russell, Welsh Law in Medieval Anglesey. British Library Harleian MS 1796 (Latin C), Texts and Studies in Medieval Welsh Law II (Cambridge, 2011)
Mae'r ffeiliau sy'n dilyn yn rhestru cynnwys pob adran o Ancient Laws, gan ddangos thema'r adrannau(yn defnyddio'r teitlau Saesneg fel ag y maent yn y gyfrol) ac yn rhoi croesgyfeiriadau i'r llawysgrifau a ddefnyddiwyd. Y llawysgrif a ddefnyddiwyd fel y prif destun a ddangosir yn gyntaf, ac fe'i dilynir gan lawysgrifau a ddefnyddiwyd ar gyfer amrywiadau.
Ceir y tri Dull yng Nghyfrol I.
Yr 'Anomalous Laws'.